Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 22 Hydref 2013

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(157)v6

 

<AI1>

1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) 

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y cwestiynau

 

</AI1>

<AI2>

2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI2>

<AI3>

3 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Adolygiad o'r Cwricwlwm ac Asesu (30 munud)

</AI3>

<AI4>

4 Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: y Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru (30 munud) 

Dogfennau Ategol
Strategaeth Lleihau Tanau Bwriadol yng Nghymru http://www.mawwfire.gov.uk/Cymraeg/Diogelwch/Lleihau-Llosgi-Bwriadol/Pages/default.aspx

Strategaeth yr Awdurdodau Tân ac Achub ar gyfer Plant a Phobl Ifanc
http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/safety/publications/frastrategy/?skip=1&lang=cy

Strategaeth Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru
http://wales.gov.uk/topics/transport/publications/roadsafety/?skip=1&lang=cy

</AI4>

<AI5>

5 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: System Drafnidiaeth Integredig De-ddwyrain Cymru (30 munud)

</AI5>

<AI6>

6 Gorchymyn Diogelwch Tân Domestig (Diffinio Preswylfa) (Cymru) 2013 (15 munud) 

NDM5336 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Diogelwch Tân Domestig (Diffinio Preswylfa) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Medi 2013.

Dogfennau Ategol

Gorchymyn Diogelwch Tân Domestig (Diffinio Preswylfa) (Cymru) 2013
Memorandwm Esboniadol

</AI6>

<AI7>

7 Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) (60 munud) 

NDM5338 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Rheoli Ceffylau (Cymru).

Gosodwyd Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 14 Hydref 2013.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu na fu’r bil drwy broses pwyllgor Cyfnod 1.

Dogfennau Ategol

Y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad gan y Pwyllgor Cyllid Y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru)
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd.

 

</AI7>

<AI8>

8 Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) (5 munud) 

NDM5339 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Rheoli Ceffylau (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

 

</AI8>

<AI9>

9 Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2012-2013 (60 munud) 

NDM5337 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Cyntaf Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2012-13, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 26 Medi, sy’n amlygu’r gwaith a wneir gan y Comisiynydd i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru hyd yma wedi cyhoeddi safonau iaith Gymraeg yn dilyn gwaith y Comisiynydd.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl gyrff sy’n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru yn cyhoeddi ac yn gweithredu polisi'r iaith Gymraeg.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymgynghori’n eang ar ddatblygu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, a bod targedau cadarn yn cael eu sefydlu ar gyfer eu gweithredu.

Dogfen Ategol
Adroddiad Blynyddol Cyntaf Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2012-13

</AI9>

<AI10>

Cyfnod Pleidleisio

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 23 Hydref 2013

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>